
OEDFAON
Cynhelir dau wasanaeth bob bore Sul:
09.30 Oedfa Saesneg
10.45 Oedfa deulu Gymraeg gydag
Ysgol Sul i’r plant
TEULU TWM
Cynhelir grŵp ieuenctid bob
nos Sul am 5.30 p.m.
GWEINIDOG
Y Parchg. Eirian Rees (01443) 202873
YSGRIFENNYDD Y CWMNI
Wyn Jones (01443) 217248
CADEIRYDD Y CWMNI
Emlyn Davies (02920) 891344
CYSYLLTU
cronfatabernacl@btinternet.com
Gair o Groeso
Mae Capel y Tabernacl, Efail Isaf, yn gwmni elusennol cofrestredig gyda chynulleidfa o dros 200 o oedolion a thua 100 o blant a phobl ifanc. Caiff y capel ei redeg o ddydd i ddydd gan griw mawr o wirfoddolwyr, a’r gwaith trefnu’n cael ei gydlynu gan 14 o gyfarwyddwyr.
Saif pentref Efail Isaf yng nghysgod mynydd y Garth, ym mharthau isaf cymoedd Rhondda a Taf, tua 9 milltir o ganol Caerdydd. Pentref noswyl ar gyfer y brifddinas yw yn bennaf erbyn hyn, gyda thua 2,000 o drigolion, a’r Tabernacl yw’r unig gapel. Rydym yn denu cynulleidfa o ardal eang o gwmpas, gan gynnwys Pentyrch, Creigiau, Y Groesfaen, Llantrisant, Pentre’r Eglwys, Llanilltud Faerdref, Tonteg a Meisgyn.
Mae’n braf medru adrodd bod y capel yn gryfach heddiw nag erioed o'r blaen ac mae'r aelodau'n drawstoriad da o ran oed a chefndir crefyddol, er mai perthyn i Undeb yr Annibynwyr y mae’r achos.
Rydym yn barod iawn i groesawu ymwelwyr ac aelodau newydd, ac mae gennym ddarpariaeth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mehefin 28ain: Mr Emlyn Davies.
Gorffennaf 5. Gwasanaeth Cymun o dan arweiniad ein Gweinidog.
Gorffennaf 12. Y Parchedig Ddoctor Noel A. Davies
Gorffennaf 19. Sul y Cyfundeb.
Gorffennaf 26. Cyd-addoli ym Methlehem, Gwaelod y Garth
Awst 2. Gwasanaeth Cymun o dan arweiniad ein Gweinidog
Awst 9. Cyd-addoli ym Methlehem, Gwaelod y Garth
Awst 16. Allan James yn Y Tabernacl
Awst 23. Cyd-addoli ym Methlehem, Gwaelod y Garth
Awst 30. Aelodau Efail isaf yn Y Tabernacl.