NEWYDDION

Mae’r Tabernacl yn gymuned Gristnogol fywiog gydag addoli’n digwydd ar wahân drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg

Yn wahanol i’r patrwm yn genedlaethol, ’dyw’r aelodaeth ddim wedi gostwng; yn wir, mewn blynyddoedd diweddar mae wedi cynyddu, ac mae’n galonogol bod yna sbectrwm eang gyda llawer o deuluoedd ifanc yn mynychu. Mae’r  Ysgol Sul yn ffynnu, ac i’r bobl ifanc sydd wedi pasio oedran Ysgol Sul,  mae’r grŵp ieuenctid (Teulu Twm) yn cynnig profiad egnïol i’w hysgogi ac ar y funud mae yna tua 40 o arddegwyr yn mynychu.

Wrth gwrs, mae’r Tabernacl yn adnodd pwysig yn Efail Isaf yn enwedig gan nad oes mudiad crefyddol arall yn y pentref. Yn wir, ychydig o gapeli ac eglwysi sydd ar gael yn yr ardal o gwmpas, felly mae’n ganolbwynt, er enghraifft,  i seremonïau megis priodasau ac angladdau, achlysuron a ddeil yn arwyddocaol hyd yn oed o fewn amgylchedd sy’n seciwlar yn bennaf.  Yn yr un modd bydd ysgolion lleol yn ymweld â’r Tabernacl yn rheolaidd fel modd i gyfarwyddo’r plant â’u treftadaeth hanesyddol a chrefyddol.

Heb amheuaeth, mae’r Tabernacl yn gymuned Gristnogol weithredol a bywiog, sy’n cydnabod bod ganddi sawl swyddogaeth bwysig i’w chwarae yng nghyswllt ei haelodau ei hun a’r diriogaeth y tu hwnt i’w drysau.  Ar yr un pryd mae’n cydnabod na all sefyll yn yr unfan; yn wir yn ystod 2005 bu wrthi, dan arweiniad y gweinidog, yn  pwyso a mesur y modd y mae’n gweithredu ac mae canlyniadau’r gwerthusiad hwnnw wrthi’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd.  

 

YR OCSIWN FAWR

Ocsiwn

Roedd yr Ocsiwn Fawr yn achlysur i’w gofio ddechrau Mai eleni pan ddaeth criw niferus at ei gilydd yn Neuadd y Pentref, Pentyrch i godi arian at y Cynllun Adeiladu. Gyda Brian Davies yn ei hwyliau, trefniadaeth Gwilym Treharne fel oriawr, a’r  gynulleidfa yn mwynhau pob eiliad o’r gwerthu a’r tynnu coes, bu’r cyfan yn llwyddiant ysgubol. Mawr yw ein diolch i bawb a fu’n helpu gyda’r trefnu, i’r rhoddwyr i gyd am eu dychymyg yn ogystal â’u haelioni, ac i’r rhai  a dyrchodd yn ddwfn iawn i’w pocedi i gynnig am y gwahanol eitemau. Roedd y cyfanswm a godwyd ar y noson dros £4,000, swm teilwng iawn a fydd yn rhoi hwb sylweddol iawn  i gronfa adeiladu’r Tabernacl. 

Yr eitem unigol a ddenodd y cynnig uchaf oedd defnydd  o’r tŷ ym Mhortiwgal am wythnos. Bu’n gystadleuaeth frwd ar un pwynt cyn i gonsortiwm golff Eric Davies  lorio pob gwrthwynebydd gyda chynnig o £860. Roedd diddordeb mawr hefyd yn y garafán yn Sir Benfro, ac yn y garthen wlân Gymreig a wehyddwyd gan D.J.Davies. Talwyd £112 am y ddau docyn i gêm rygbi Cymru, a chyfrannodd 10 o bobl £25 yr un i gael mynd i gerdded y Bannau gyda Mark Morgan.

Y DIWEDDARAF


Mehefin 29ain Geraint Rees, Efail Isaf

Gorffennaf 6 Oedfa Gymun o dan ofal y Gweinidog
Gorffennaf 13 Oedfa deuluol
Gorffennaf 20 Sul y Cyfundeb yn Ysgol Plasmawr
Gorffennaf 27 Cyd-addoli ym Methlehem, Gwaelod y Garth.

Awst 3 Oedfa Gymun o dan ofal ein Gweinidog
Awst 10 Cyd-addoli ym Methlehem, Gwaelod y Garth
Awst 17 Y Parchedig Eirian Rees
Awst 24 Cyd-addoli ym Methlehem, Gwaelod y Garth
Awst 31 Y Parchedig D.H. Owen, Caerdydd

YR ADEILADAU

Cyflwynwyd enw newydd i eirfa aelodau’r Tabernacl yn gynharach eleni  wrth i Wyn Jones gyflwyno’r argymhelliad i droi’r capel yn elusen gofrestredig.  Soniodd am waith PAPAT, sef Pwyllgor Ariannu Prosiect Adeiladu’r Tabernacl.  Dyma’r tîm sy’n ceisio codi o leiaf £250,000 i dalu am y gwaith, ac maen nhw eisoes wedi llunio Prosbectws i’w anfon i wahanol gyrff a mudiadau sy’n arfer rhoi grantiau ar gyfer gwaith o’r fath.  Mae’n fwriad hefyd i ddosbarthu copïau o daflen i aelodau’r capel  ac i drigolion Efail Isaf yn  lled fuan.

Taflen

Mae PAPAT yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Llywio, dan gadeiryddiaeth Geraint Wyn Davies, a’r bwriad yw i’r Pwyllgor Llywio gyflwyno adroddiadau cyson i’r gynulleidfa am yr hyn sydd yn digwydd.  Bydd y Pwyllgor Llywio hefyd yn cydlynu a goruchwylio gwaith pob pwyllgor arall.
Y ddau bwyllgor arall sydd yn weithredol ar hyn o bryd  yw’r  Grŵp Technoleg Gwybodaeth, yn gyfrifol am y cyfarpar clyweled a fydd yn rhan o’r Cynllun Adeiladu, a’r  Pwyllgor Technegol, yn gyfrifol am gydweithio gyda’r Pensaer, a hwy yn nes ymlaen fydd yn goruchwylio gwaith yr adeiladwyr.

Dyma'r prosbectws

Prosbectws

Capel y Tabernacl Cyf - Elusen Gofrestredig Rhif 1122584.  Rhif Cwmni: 6349041