HANES YR ACHOS

CYFLWYNIAD:

LlunMae’n siŵr bod Capel y Tabernacl, Efail Isaf yn un o’r addoldai mwyaf adnabyddus yng Nghymru gyfan. Eto, mae’n deg dweud nad oes dim yn anarferol o brydferth ynddo, a go brin y gellid dadlau bod yna werth hanesyddol o bwys mawr  yn perthyn i’r adeilad ychwaith. Y rheswm ei fod mor adnabyddus yw mai dyma’r capel sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson yn yr opera sebon Pobol y Cwm ar S4C, ac o ganlyniad daeth yn gyfarwydd iawn i wylwyr y gyfres honno.

Ond nid dyna ryfeddod mwyaf y Tabernacl. Yr hyn sy’n gwneud y capel yn anarferol yw ei hanes diweddar. Mae hon yn  stori galonogol o gynnydd a llwyddiant, y llanw wedi’r trai a’r hyder newydd mewn trefn o rannu dyletswyddau a chydweithio rhwng yr aelodau i ateb her yr oes bresennol. Rydym yn wirioneddol ffodus i fedru dweud bod yr aelodaeth yn gryfach heddiw nag y bu erioed, yn agos i 200, o bob oed, gyda dros 100 o blant a phobl ifanc dan 18 oed hefyd ar y llyfrau. Teuluoedd ifanc sy’n gyfrifol am y cynnydd diweddar ac mae’r  Ysgol Sul yn fywiog tu hwnt, a’r plant  yn gyfrifol am yr oedfa deuluol unwaith bob mis. Erbyn heddiw, mae’r sesiwn  nos Sul i bobl ifanc, sef Teulu Twm, yn enwog drwy Gymru gyfan am eu gweithgaredd elusennol.  Rhwng y cyfan, mae yma fwrlwm a chyffro, ac rydym yn credu’n gryf mewn estyn llaw i’r gymdeithas o’n cwmpas.

Dros y blynyddoedd, rydym fel capel wedi elwa’n fawr o’r mewnfudiad i gyffiniau Caerdydd gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru. I’r rheiny oedd yn dymuno ymgartrefu ar gyrion y brifddinas yn hytrach nag yn ei chanol, daeth yr ardal hon yn dynfa naturiol. Yma yn Efail Isaf y sefydlwyd Côr Godre’r Garth, Côr Merched y Garth a Pharti’r Efail, ac er nad yw aelodau’r corau i gyd yn aelodau yn y Tabernacl, mae’r ymlyniad i’r capel yn deyrngar mewn cyngherddau gweddol gyson.

I’r sawl nad yw’n gyfarwydd â’r ardal hon, fe saif pentref  Efail Isaf rhyw 9 milltir i’r gogledd o ganol dinas Caerdydd wrth droed gogleddol Mynydd y Garth, nid nepell o Bontypridd.  Pentref  bach amaethyddol oedd hwn yn wreiddiol ond tyfodd yn sgil y datblygiadau diwydiannol yn y 19eg ganrif. Am ryw reswm, fe ymddengys fod Efail Isaf wedi cadw’i gymeriad pentrefol a gwledig yn fwy na sawl lle arall yn yr ardal, ac fe ddiogelwyd yr iaith hithau hyd yn oed cyn y mewnlifiad o Gymry Cymraeg, gyda’r capel hwn yn galon i’r gweithgareddau Cymraeg.


OLRHAIN YR HANES:

Erbyn 40au’r 19eg  ganrif, roedd pentref Efail Isaf wedi’i amgylchynu gan fwrlwm o weithgaredd mewn gwahanol gapeli Annibynnol, a sawl un ohonyn nhw’n efengylu’n egnïol yn yr ardal.  Ar un ochr roedd Capel Groeswen, Eglwysilan, a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd R. Tudur Jones fel “prif bwerdy ysbrydol y fro”.  Roedd dylanwad y capel yn fawr ar ardal eang, ac fe gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod gweinidogaeth Griffith Hughes yn hanner cyntaf y cyfnod rydym yn sôn amdano. Daeth capel Groeswen yn fam-eglwys i sawl achos dan yr Annibynwyr a’r Methodistiaid Calfinaidd yng nghyffiniau Llantrisant, Caerffili a chyrion Caerdydd.

Llun
Adfeilion Capel Taihirion heddiw

I’r de o Efail Isaf roedd capel bywiog arall yn Rhydlafar, rhwng Pentyrch a Sain Ffagan.  Sefydlwyd eglwys Taihirion hithau rywdro yn 60au’r  18fed ganrif, ac er mai capel bychan iawn oedd hwn, cafodd ddylanwad sylweddol ar grefydd yn y fro. Roedd capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth eisoes wedi’i  sefydlu dan adain Taihirion ers 1831.

Dan anogaeth rhai o genhadon y ddau gapel hyn, dechreuodd criw o bobl ymgasglu at ei gilydd yn nhafarn y Carpenters yn Efail Isaf oddeutu’r 40au, a phenderfynwyd gwneud cais i eglwysi Taihirion a Gwaelod y Garth am gael capel yn Efail Isaf ei hun. Yn ôl R. Tudur Jones, y ddau brif ladmerydd oedd Philip Williams, un oedd newydd symud i fyw i’r pentref, a William Lewis, diacon yn Nhaihirion, yntau hefyd yn byw yn Efail Isaf. Cefnogwyd y cais yn frwd gan Lemuel Smith, gweinidog ifanc Taihirion a fu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd. Derbyniwyd rhodd o dir gan Thomas Philips, Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, ac agorwyd y Tabernacl yn swyddogol ym 1843.

Erbyn 1871 roedd angen adeilad newydd, ac fe ehangwyd ar hwnnw hefyd yn 1912.  Ar wahân i’r capel ei hun, roedd yna festri fechan, a stablau oddi tani i gadw ceffylau’r gynulleidfa.


Llun
Bronllwyn, Pentyrch, cyn ei ddymchwel

Ym 1851, rhoddwyd galwad i’r Parchg John Davies o Dreforus i ddod yn weinidog ar eglwysi Taihirion a’r Tabernacl, ac fe arhosodd yn Efail Isaf  hyd ddiwedd ei oes yn 1904. Yn fuan iawn wedi cyrraedd, bu’n allweddol yn sefydlu achos arall ym Mhentyrch, sef Bronllwyn, ac ar y pryd roedd yn weinidog ar y tair eglwys. Rhoes y gorau i’r ofalaeth yn Nhaihirion ar ôl 42 o flynyddoedd, a bu hynny’n ergyd farwol i’r fam-eglwys, wrth iddi Seisnigo ac edwino’n gyflym.  Ymddeolodd o gapel Bronllwyn, Pentyrch cyn diwedd ei yrfa hefyd, ac er mai yn yr Efail Isaf y treuliodd y rhan fwyaf o’i oes, fel “John Taihirion” y byddai pawb yn cyfeirio ato. 



Yr oedd John Taihirion Davies yn berson dylanwadol a deinamig, yn bersonoliaeth gref ac yn
bregethwr poblogaidd a huawdl. Cyfeirid ato’n aml fel “Esgob y Fro” oherwydd ei ofal, ei
bregethu a’i wleidydda.

Llun
Wedi ei farw, codwyd cofeb farmor iddo yn y Tabernacl, a’i rhoi mewn lle canolog y tu ôl i’r pulpud. Mae’r arysgrif yn cynnwys y dyfyniad canlynol:

“Dyn o gymeriad pur, cymwynasgar, aiddgar o blaid dirwest, addysg ac yn neillduol y Genhadaeth dramor; a sefydliadau ei enwad a’i wlad; pregethwr hylithr, bugail gofalus, a Gweinidog da i Iesu Grist.”

 

 

PENTREF EFAIL ISAF

Tabernacl yw’r unig addol-dŷ ym mhentref Efail Isaf hyd y dydd heddiw. Pan y’i codwyd, pentref bach cysglyd iawn oedd hwn, gyda phoblogaeth o tua 500, casgliad o fythynnod glowyr, ychydig dyddynod, gorsaf  rheilffordd a thafarn. Ond fe ddaeth ffrwydrad yn y boblogaeth, ac roedd y Cyfrifiad diwethaf yn dangos poblogaeth o dros 2,000 o breswylwyr. Eto, dyw’r cynnydd yma ddim wedi bod mor ddramatig ag yn rhai o’r pentrefi cyfagos megis Llanilltud Faerdref, Pentre’r Eglwys, Tonteg, Pentyrch, Creigiau a’r Groesfaen. Daw cynulleidfa’r Tabernacl o’r pentrefi hyn i gyd, a’r aelodau’n hannu o bob cwr o Gymru, ac wedi eu magu mewn sawl enwad gwahanol.


Llun
Yn ystod chwedegau’r ganrif ddiwethaf codwyd neuadd bentref yn Efail Isaf, gyferbyn â’r capel ar Heol y Ffynnon. Braf yw medru dweud bod  y  Neuadd a’r Tabernacl yn cydweithio’n ardderchog, yn gwbl  gymharus eu darpariaeth ac yn wir mae’r cynnydd parhaus yn nhwf poblogaeth y pentref yn dangos yn eglur bod angen y ddau leoliad i ddarparu ar gyfer y cyhoedd. Bydd y capel ei hun yn gwneud defnydd o’r Neuadd bob bore Sul, gan nad yw ein festri ni yn ddigon mawr i gynnwys ein plant i gyd.

Fel y soniwyd eisoes, cadwodd y pentref ei gymeriad Cymraeg a Chymreig am flynyddoedd lawer, a does dim dwywaith nad oedd y capel yn gymorth mawr i hynny. Fel ym mhob capel, bu  yma genedlaethau o arweinwyr a chymwynaswyr disglair, a hwythau’n bobl oedd yn gefn i’r bywyd Cymraeg mewn talcen caled ym Mlaenau Morgannwg am flynyddoedd lawer. Bu’r Parchg. D. Stanley Jones yn weinidog yma am flynyddoedd, ac roedd bri mawr ar y côr plant oedd yn perthyn i’r capel. Ond maes o law, fe adawodd y  dylanwadau estron eu hôl,  ac fe ddechreuodd yr achos ddirywio yn y Tabernacl.

Ar ddiwedd y chwedegau, dim ond 40 o aelodau oedd yma, a’r rhan fwyaf o’r rheiny yn bensiynwyr. Saesneg oedd iaith yr Ysgol Sul, ac fe ystyriwyd troi’r oedfaon yn Saesneg.  Ond yna, fe gyrhaeddodd gwaed newydd, egni  ffres, a brwdfrydedd heintus. Wrth i’r ysgolion Cymraeg gael eu sefydlu yn y fro, denwyd mwy a mwy o Gymry Cymraeg i ymsefydlu yn y cylch, a dechreuwyd cenhadu o’r newydd. Dyrchafwyd y Parchg. D. Eirian Rees yn weinidog gyda chefnogaeth werthfawr pobl fel Edward Morris-Jones a Penri Jones, ac yn raddol daeth tro ar fyd.
Ochr yn ochr â’r bywyd newydd yn y capel ei hun, daeth Efail Isaf yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Sefydlwyd eisteddfod, ac er fod honno wedi hen ddiflannu, mae Côr Godre’r Garth yn rhywbeth a dyfodd ohoni. Yn ddiweddarach daeth Côr Merched y Garth a Pharti’r Efail, a’r tri grŵp yn ymarfer yn rheolaidd yn y pentref, naill ai yn y neuadd neu yn festri’r capel. Mae côr plant y capel hefyd yn parhau i ffynnu. Nos Sul y Blodau eleni, bu côr cymysg lleol arall, Cantorion Creigiau, yn perfformio “Olivet to Calvary” gan Maunder yn y capel. Mae’r Tabernacl ar gael ar gyfer pob math o gynulliadau cymdeithasol eraill ac yn cael ei ddefnyddio felly gan y gymuned leol.  Yn eu tro, bu’r ysgol feithrin leol, grŵp Ti a Fi a gwahanol ddosbarthiadau nos yn defnyddio’r festri’n gyson.

 

Y Tabernacl Heddiw

Pa fath o gapel yw’r Tabernacl felly?

Cynhelir oedfa Saesneg am 9.30 yn y bore, a’r oedfa Gymraeg yn dilyn am 10.45. Bydd yr Ysgol Sul Gymraeg yn cyfarfod yr un pryd, a’r sesiwn i arddegwyr yn digwydd am 6.00 pm.
Llun
Rydym wedi bod trwy gyfnod o newid mawr yn ddiweddar gyda’r aelodau yn cymryd llawer mwy o gyfrifildeb am y gwasnaethau o Sul i Sul. Deil ein gweinidog, Y Parchg. D. Eirian Rees i’n harwain ar y Sul cyntaf o bob mis.  Byddwn yn cael cwmni gweinidog gwadd yn amlach na pheidio ar yr ail Sul, ac os nad yw hynny’n bosib, mae tîm bach  o blith yr aelodau sy’n fodlon ymgymryd â’r gwaith. Tro plant yr Ysgol Sul yw hi ar y trydydd Sul gydag Oedfa Deulu.  Yn dilyn hyn, bydd aelodau Teulu Twm yn cynnal siop y Tylwyth Teg, sef stondin masnach deg.  Rydym yn troi at ein haelodau ein hunain ar gyfer y pedwerydd Sul. Pan fydd pumed Sul yn y mis, mae’n gyfle da i arbrofi gyda rhyw ffurf newydd ar ddefosiwn. Ar gyfer pob Sul, cyhoeddir taflen fach liwgar gan dîm bach o olygyddion,  sy’n rhoi ffocws i’r oedfa.

Mae gan bob ardal ei thîm o rai sy’n fodlon bugeilio ac ymweld lle bo angen, ac mae’r pwyllgor elusennau yn gyfrifol am ddosbarthu rhyw £1,500 i achosion da bob blwyddyn, yn ogystal â threfnu casgliadau mwy ymarferol o nwyddau neu ddillad pan fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gofyn am gymorth.

Ar ben hyn, mae yna nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol, o fewn y capel ei hun ac mewn cydweithrediad â’r gymuned ehangach. Er enghraifft, byddwn yn trefnu noson yn rheolaidd i Gylch Cadwgan, sy’n bartneriaeth rhwng mudiadau Cymraeg yn yr ardal, yn cynnal cyfres o ddarlithoedd dan nawdd Yr Academi Gymreig. 

Mae’r Tabernacl, drwy gefnogaeth ariannol ac ymarferol yr aelodau, yn cynnal mynwent wrth ochr y capel ac mae yno ardd goffa ar gyfer claddu llwch o amlosgfa.  Mae’r fynwent ar gael i holl drigolion y pentref, ac nid i gynulleidfa’r Tabernacl yn unig.  Mae hyn yn gyfleuster pwysig a gwerthfawr i’r gymuned.

LlunACHOSION  DA

Rydym yn credu’n gryf mewn ymrwymiad i waith elusennol ar raddfa eang, yn lleol ac yn rhyngwladol. Os bydd trychineb mewn gwlad dramor, rydym yn ceisio ymateb mewn rhyw fodd i wneud cyfraniad. Er enghraifft, pan ddigwyddodd trasiedi’r tsunami, bu’r capel yn “warws” i dderbyn rhoddion i Apêl y Tsunami yn Efail Isaf  a phentrefi cyfagos.  Cafwyd ymateb syfrdanol a llanwyd dwy lori 40 tunnell o “warws” y Tabernacl. Hefyd, cynhaliwyd cyngerdd i gronfa plant yn Affrica lle y codwyd £500, a bu dau gyngerdd arall i gefnogi Apêl Daeargryn Pacistan a  chodwyd bron i £2,000 yn y cyfarfodydd hynny.

Mae’r adeiladau ar gael, fel y bo modd, i Weithwyr Cymdeithasol gasglu rhoddion (fel dillad ayyb), er mwyn iddynt fedru cynnal eu cleientiaid. Ar y funud cesglir nwyddau er mwyn cynnal pobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol ac yn  sefydlu cartref dan oruchwyliaeth y  Gwasanaethau Cymdeithasol.

Fel y gellid disgwyl efallai, mae’r Tabernacl hefyd yn ganolfan allweddol i Wythnos Cymorth Cristnogol yn y gymdogaeth. Dros y blynyddoedd cododd y bobl ifanc dros £25,000 tuag at elusennau lleol fel rhan o weithgaredd Teulu Twm; eleni fel enghraifft, casglwyd £1,500 i goffrau Bobath, y  Ganolfan Therapi  Parlys yr Ymennydd  yng Nghaerdydd. Bydd y ddwy gynulleidfa rhyngddyn nhw yn cyfrannu o leiaf £2,500 yn flynyddol i achosion da, ac mae’n arferiad blynyddol hefyd i gyfrannu at ariannu prosiect gan Weithwyr Cymdeithasol yr ardal i fynd â phlant ar wyliau. Fel y rhan fwyaf o gapeli cylch Caerdydd, bydd y Tabernacl yn cymryd tro yn rheolaidd  i fwydo’r di-gartref ar brynhawn Sul yn festri’r Tabernacl yn yr Aes. Yna, yn ystod yr wythnosau cyn y Nadolig bob blwyddyn, cesglir nwyddau ar gyfer creu hamperi i’w dosbarthu gan Weithwyr Cymdeithasol yn yr ardal.

Llyfr Rysetiau

 

 

HANES EGLWYS Y TABERNACL, EFAIL ISAF

 

1841    Dechreuwyd yr 'achos' yn Efail Isaf - Cangen o Eglwys Taihirion, Rhydlafar gyda'r Parch Lemuel Smith yn Weinidog.

"Cychwynnwyd yn y ‘longroom' perthynol i dafarndy'r pentre a elwir ‘Carpenters' Arms'. Safai yr ystafell hon ar wahân i'r 'Carpenters' yn ymyl yr ardd, lle'r oedd grisiau yn esgyn iddi o'r tu allan".
(O lyfryn y Canmlwyddiant 1941)

Penderfynwyd adeiladu capel ar dir fferm Y Celyn.

1842    Gosodwyd y sylfaen ar ddechrau'r flwyddyn.            Bu farw Y Parch Lemuel Smith.                                 Sefydlwyd y Parch Levi Lawrence yn Weinidog.

1843    Adeiladwyd ac agorwyd y capel cyntaf.

1847    Gadawodd y Parch Levi Lawrence i ofalu am Eglwys Adulam, Merthyr Tudful.

1851    25 o aelodau gyda'r Parch John Taihirion Davies yn Weinidog.

1869    71 o aelodau a'r capel cyntaf wedi mynd yn rhy fach. Penderfynwyd adeiladu capel newydd.

1870    Gorffennaf 3ydd a 4ydd. Agorwyd y capel presennol ar gost o £830.00.

1878    Aelodaeth yn 144.
Erbyn diwedd y flwyddyn collwyd 27 o aelodau oherwydd cau pob pwll glo yn y gymdogaeth. Symudodd yr aelodau yma i’r Rhondda a Chwm Garw.

1898    Codwyd y festri a'r stabl oddi tano am £250.00

1901    Medi. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Jiwbilî i ddathlu hanner can mlynedd gweinidogaeth John Taihirion Davies.

1904    Bu farw Y Parch. John Taihirion Davies.

1904-05 Yn ystod y diwygiad, derbyniwyd 25 o aelodau o'r newydd.

1906    Ar ddechrau'r flwyddyn gosodwyd Tablen Goffa tu ôl i'r pulpud yn datgan parch ac edmygedd yr Eglwys o’r Weinidogaeth rymus ag eithriadol a fu. Costiodd y Tablen Goffa £30. Gorffennaf 19. 0rdeiniwyd myfyriwr o Goleg Bangor Mr E. B. Powell Glanaman yn weinidog. Aelodaeth 100.

1907    Ionawr. Dechreuwyd Ysgol Sul yn Neuadd y Bedyddwyr Saesneg yn Church Vil.lage.

1909    Symudodd y Parch E.B. Powell i Faesycwmer. 24 Medi Cyfarfodydd ordeinio'r myfyriwr o Goleg             Caerfyrddin, Mr T. E. Jones, Treorci.

1910    Chwefror 16. Adeiladwyd ac agorwyd Gwynfa, Church Village ar gost o £600 fel festri ychwanegol ar gyfer aelodau Llanilltud Faerdref a Church Village.

1911    Derbyniwyd 25 o aelodau newydd a rhan fwyaf o rhain yn aelodau'r Ysgol Sul.

1914    Dechreuwyd cynnal gwasanaethau'r nos yng Ngwynfa.
1916    Gadawodd y Parch T. E. Jones am Drewyddel, Sir Benfro. Yn ystod ei weinidogaeth (1909-16) bu cynnydd o 105 i 133 o aelodau. Gosodwyd golau trydan yn y capel ar gost o  £23-13s-0d.

1920    Sefydlwyd y Parch John Howell, Fonciau Rhos.

1921    Gadawodd y Parch John Howell am Moreia, Rhymni. Derbyniodd 27 o aelodau yn ystod y 14 mis.

1922    Gosodwyd peiriant cynhesu newydd yn y capel, peintiwyd y capel a chodwyd ystafell i’r gweinidog a’r diaconiaid am £400.00

1925    Gorffennaf 24. Cyfarfodydd ordeinio myfyriwr o Goleg Caerfyrddin, Mr. D. Stanley Jones o Ffynnongroyw, Sir Fflint. Ehangwyd y fynwent wrth brynu hanner erw o dir am £133.00

1926    Nifer mwyaf o aelodau yn hanes yr Eglwys. 176 o aelodau.

1941    Canmlwyddiant yr Achos. Cafwyd oedfaon dathlu ar Fedi 6 - 8. Aelodaeth yn 118.

1945    Penderfynwyd cau Ysgol Sul y Gwynfa. Aelodaeth 114.

1951    Adnewyddu'r to capel am £81,00. Aelodaeth 119.

1953    Gadawodd y Parch D. Stanley Jones am Dregwyr.

1958    Aelodaeth yn 78

1963    Penderfynwyd gwerthu Gwynfa.      

1967    Peintiwyd y capel.

1970    Canmlwyddiant y capel presennol.
Derbyniwyd y Parchedig a Mrs Eirian Rees yn aelodau.     
Gwneud y Parchedig D. Eirian Rees yn ddiacon a gwahoddwyd ef i bregethu o leiaf un Sul y mis.          

1973    Cwrdd ymgysegru i'r holl eglwys gan sefydlu Y Parchedig D. Eirian Rees yn weinidog anrhydeddus. Aelodaeth yn 64.

1974    Peintiwyd y capel.

1976    Derbyniwyd 41 o aelodau yn ystod y flwyddyn.

1977    Adeiladwyd ystafell ymolchi a chegin i'r tŷ capel ar gost o £6,806.84c.

1980    Penderfynwyd atgyweirio'r festri gan ychwanegu estyniad ar gost o £6,600.
Dathlu pen-blwydd y capel presennol yn 110 mlwydd oed. Aelodaeth yn 143.

 

GWEINIDOGION Y TABERNACL

Y Parchedig Lemuel Smith                            1841 - 1842
Y Parchedig Levi Lawrence                           1842 - 1847
Y Parchedig John Taihirion Davies                1851 - 1904
Y Parchedig Evan Bruant Powell                   1906 - 1909
Y Parchedig Thomas E Jones                        1909 - 1916    
Y Parchedig John Howell                              1920 - 1921
Y Parchedig D. Stanley Jones                       1925 - 1953
Y Parchedig D. Eirian Rees                           1973 -

Capel y Tabernacl Cyf - Elusen Gofrestredig Rhif 1122584.  Rhif Cwmni: 6349041.